Mae Groundwork wedi bod yn saernïo prosiectau ymarferol gyda phartneriaid blaengar fel chi, rhai corfforaethol, yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector, i wneud i hyn ddigwydd ers mwy na 30 mlynedd. Miloedd o brosiectau pob blwyddyn sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol yn y gymuned sydd â’r angen mwyaf am gymorth. Mae’r partneriaethau hyn yn gwneud gwahaniaeth y gallwch ei weld – gan helpu pobl i gael gwaith, creu cymunedau cryfach a chymdogaethau gwell a hybu ffyrdd iachach a gwyrddach o fyw.
Drwy gyfuno ein gwybodaeth leol â’n cwmpas cenedlaethol, gallwch chithau gyflawni prosiectau ag effaith fawr sy’n newid bywydau mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig.