Mae pobl sy’n byw mewn lleoedd sy’n wyrddach, yn lanach ac yn fwy diogel yn iachach ac yn hapusach.

Mae gan leoedd sy’n edrych yn well a lle mae mwy o bobl yn adnabod eu cymdogion ac yn gwirfoddoli gyfraddau troseddau is a lefelau buddsoddi uwch. Ni ddylai neb gael ei orfodi i fyw mewn lle sy’n niweidio ei iechyd a dylai pawb gael llais yn y ffordd y caiff ei gymdogaeth ei chynllunio, ei datblygu a’i rheoli. Mae ein ‘seilwaith gwyrdd’ yr un mor hanfodol i ansawdd ein bywydau ag yw ein rhwydweithiau trafnidiaeth, trydan neu ddigidol.

P’un a ydi’ch man gwyrdd lleol yn lle i fynd â’ch ci am dro, i chwarae gyda’ch plant, i gymryd rhan mewn chwaraeon neu ddim ond i ddianc rhag straen byw mewn dinas, gall pawb chwarae rhan yn y gwaith o sicrhau y caiff y buddion hyn eu cynnal, yn enwedig gan fod yn rhaid i gynghorau wneud penderfyniadau anodd ynghylch pa wasanaethau i’w diogelu.

Creu lleoedd gwell: Ein heffaith

Yn 2018, rydym wedi

  • Gwella 4,300 o fannau cyhoeddus
  • Plannu 6,500 o goed newydd
  • Cynorthwyo 24,000 o grwpiau cymunedol

Creu cymunedau cryfach sy’n gweithio dros bobl a natur

Bob blwyddyn, rydym ni’n helpu cannoedd o filoedd o bobl o bob oed i drefnu ac i gydweithio i ddiogelu, cadw, gwella neu greu parciau, mannau chwarae, rhandiroedd, gwarchodfeydd natur a llawer o fannau a lleoedd eraill sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym ni’n helpu pobl i greu ‘grwpiau ffrindiau’ ac yn trefnu cymorth a chyllid. Rydym ni’n helpu pobl ifanc i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed ac i ddangos y gallan nhw fod yn rym pwerus er daioni yn eu cymunedau. Rydym ni’n helpu pobl sy’n ynysig neu’n dioddef o broblemau iechyd i gyfranogi ac i fod yn egnïol. Rydym ni’n helpu i ail-gysylltu pobl â natur, gan ddeall pwysigrwydd bioamrywiaeth a buddion bwyd ffres, lleol.

Ar hyd y ffordd, rydym ni’n helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i feithrin eu hyder a’u sgiliau fel gwirfoddolwyr ac arweinwyr gwirfoddol, eu helpu i ddeall mwy am y ffordd y caiff gwasanaethau lleol eu rhedeg a chreu llu o gyfleusterau newydd gwerthfawr o barciau sglefrfyrddio i gofebion rhyfel. Mae ein gwaith yn creu cyfleoedd newydd i bobl gyfarfod a dod i adnabod ei gilydd ac yn helpu i addasu cymdogaethau i ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Hyrwyddwr mannau gwyrdd

Mae ein hamgylcheddau lleol yn bwysig. Rydym ni’n gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill i sicrhau bod pobl yn parhau i werthfawrogi eu mannau gwyrdd a bod gwleidyddion a busnesau’n ymateb trwy sicrhau y cânt eu diogelu a’u hariannu. Prydain oedd y wlad gyntaf yn y byd i gydnabod pwysigrwydd mannau gwyrdd trefol a chreu’r parciau cyhoeddus cyntaf trwy gysylltu arweinwyr busnes a bwrdeistrefol â materion oedd yn bwysig i gymunedau lleol. Gyda’ch cymorth chi, ein nod yw adfywio’r ysbryd arloesol hwnnw.