Rhwydwaith Arbed Ynni Mawr

Mae’r rhaglen Rhwydwaith Arbed Ynni Mawr yn rhoi cyngor ar ynni i bobl yn y gymuned.

Mae’r Rhwydwaith Arbed Ynni Mawr yn cael ei ariannu’n genedlaethol gan Cyngor ar Bopeth, ac mae’n dwyn ynghyd prosiectau lleol sy’n rhoi cyngor ar Arbed Ynni.

Mae ein Pencampwyr Ynni yn meithrin cysylltiadau a phartneriaethau gyda sefydliadau lleol i gyflwyno’r rhaglen yn y gymuned. Rydym yn gwneud hyn drwy ddilyn 3 elfen y Rhwydwaith Arbed Ynni Mawr.

 

Gwaith yn y maes Ynni Gweithredu
Ymgysylltu â grwpiau newydd yn y gymuned. Canolbwyntio ar grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd. Siarad yn benodol am ynni – un o’r meysydd allweddol Bydd defnyddwyr yn cymryd camau i wella eu sefyllfa.

Gall ein Pencampwyr Ynni roi cyngor ac arweiniad ar y canlynol

  • Effeithlonrwydd Ynni
  • Gostyngiad Cartrefi Cynnes
  • Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth
  • Newid tariff a darparwr
  • Talebau tanwydd

Os ydych yn trefnu digwyddiad cymunedol ac eisiau i Bencampwr Ynni ddod atoch, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01978 757524 neu e-bostiwch Energy@groundworknorthwales.org.uk i drefnu.