Green DragonBydd llawer o gwmnïau a sefydliadau yn cael ofn wrth feddwl am gyflawni systemau rheoli amgylcheddol (EMS) ffurfiol, megis ISO 14001, gan deimlo nad yw ISO 14001 yn berthnasol i natur a maint eu gweithgareddau.

 

Mae ein Safon Draig Werdd yn cynnig ateb amgen drwy ddatblygiad EMS sy’n gwirio’n allanol system neilltuol busnes ac sy’n briodol i’w anghenion.

Mae’r Safon wedi’i strwythuro’n 5 cam, a gall sefydliadau symud drwy’r holl lefelau (Lefel 5 = ISO 14001) neu aros ar lefel sy’n briodol i’w busnes penodol hwy. Y naill ffordd neu’r llall, caiff cyflawniadau eu cydnabod.

Mae’r meysydd allweddol a gwmpesir gan y Ddraig Werdd yn cynnwys arbedion carbon, cynaliadwyedd, atal llygredd, cydymffurfiad cyfreithiol a gwelliant parhaus.

Fel corff arolygu a achredir gan UKAS, rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau yn y DU ar draws amrywiaeth o sectorau, yn cynnwys gweinyddiaeth gyhoeddus, tai a thwristiaeth. Mae cyrchfan mawr ei bri y Celtic Manor yn un enghraifft.

Mae’r Celtic Manor, Casnewydd, yn un o gyrchfannau hamdden a thwristiaeth fwyaf uchel ei phroffil yng Nghymru. Mae’n enwog yn fyd-eang am gynnal Cwpan Ryder a chysylltir ei henw gyda moethusrwydd.

Bu’r gyrchfan yn defnyddio Safon Draig Werdd Groundwork Cymru er mwyn helpu i sicrhau cydymffurfiad ag ystod eang o ddeddfwriaeth amgylcheddol. Mae hefyd wedi gwneud newidiadau mawr sy’n cynnwys cyflwyno CHP (Gwres a Phŵer Cyfunedig) ar gyfer y prif westy, yn ogystal â gosod lampau LED a phennau cawod llif araf.

Mae’r tîm cyfan yn y gyrchfan wedi chwarae rhan mewn mentrau amgylcheddol ac mae’r canlyniadau yn gwneud gwahaniaethau gwirioneddol: gwell perfformiad amgylcheddol (lleihad gan 14% mewn allyriadau CO2, lleihad gan 22.5% mewn trydan a fewngludir o’r Grid Cenedlaethol, a 17% yn fwy o wastraff yn cael ei ailgylchu yn 2016-17), costau busnes is a chynnydd mewn cystadleurwydd. Yn ogystal â hyn i gyd ceir y sicrwydd bod y gyrchfan yn gwneud ymrwymiad amlwg i welliant amgylcheddol parhaus.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi adennill ein dyfarniad Lefel 3 Y Ddraig Werdd wedi nifer o flynyddoedd. Bu eleni’n llwyddiant mawr i gyrchfan y Celtic Manor. Byddwn yn parhau i wella a chwilio am ffyrdd newydd i fod mor amgylcheddol gyfeillgar â phosibl yn y dyfodol”.

Joel Kirby, Rheolwr Ynni a’r Amgylchedd, Cyrchfan Celtic Manor