Mae busnesau ar draws y wlad yn cael budd o’r manteision y gall bod yn rhan o Ardal Gwella Busnes eu creu. Gallwn helpu parciau busnes, cwmnïau rheoli canol trefi ac awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau Ardal Gwella Busnes yn eu hardaloedd – ac mae gennym ni hanes da o lwyddo i ennill y pleidleisiau hanfodol ar Ardal Gwella Busnes.
Mae Ardaloedd Gwella Busnes yn ffordd i fusnesau ddod at ei gilydd ac ariannu gwasanaethau ychwanegol neu welliannau i’w hardaloedd, gan greu mannau diogel, glân a bywiog lle gall busnesau ffynnu.
Buddion Ardal Gwella Busnes
- Gwneud penderfyniadau gwell wrth i fusnesau benderfynu ar welliannau lleol gyda’i gilydd
- Denu mewnfuddsoddiad newydd
- Amgylcheddau masnachu mwy deniadol ac o ansawdd da
- Nifer fwy o ymwelwyr a lefelau meddiannaeth uwch gan gefnogi menter / twf gwerthiant a chreu swyddi
- Llai o droseddu a fandaliaeth ac amgylcheddau masnachu mwy diogel
- Prisiau eiddo mwy cystadleuol trwy greu amgylcheddau o ansawdd gwell a delwedd well
- Gwell cysylltiadau trafnidiaeth a llai o dagfeydd
- Marchnata a hyrwyddo ychwanegol i’r ardal
- Cysylltiadau cyfathrebu llawer gwell rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gyda mwy o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i broblemau a chyfleoedd busnes
- Datblygu perthnasoedd busnes sy’n fuddiol i bawb yn yr ardal a chreu llais unedig i fusnes a all hyrwyddo newid trawsnewidiol.
Rydym ni wedi cynorthwyo â datblygiad pleidleisiau llwyddiannus ar Ardaloedd Gwella Busnes ar draws y Deyrnas Unedig gan gynnwys canol trefi a dinasoedd fel Warrington a Chaer ac ystadau diwydiannol o Winsford i Wycombe.
Mae’r prosiectau Ardaloedd Gwella Busnes yr ydym wedi’u cynorthwyo wedi ennill pleidleisiau adnewyddu, gan sicrhau cefnogaeth o hyd at 96%.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys y canlynol:
- Astudiaethau dichonoldeb Ardal Gwella Busnes i asesu pa mor addas yw eich ardal manwerthu neu barc busnes ar gyfer datblygiad Ardal Gwella Busnes.
- Rhaglenni datblygu Ardal Gwella Busnes i gyflawni gwaith datblygu’ch cais Ardal Gwella Busnes yn llawn hyd at bleidlais ffurfiol ar Ardal Gwella Busnes.
- Gwasanaethau rheoli Ardal Gwella Busnes i gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu’ch Ardal Gwella Busnes dros ei hoes o bum mlynedd.