Mae ar bobl ifanc angen pethau i’w gwneud a lleoedd i gyfarfod a datblygu wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion. Rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid i ddarparu’r mannau diogel a gweithgareddau cadarnhaol hynny y mae angen taer amdanyn nhw mewn cynifer o’n cymdogaethau. 

Mae ein gweithwyr ieuenctid profiadol yn darparu gwaith ieuenctid allestyn a datgysylltiedig mewn cymunedau, gan weithio gydag asiantaethau eraill fel yr heddlu, awdurdodau lleol, timau amlasiantaethol a chymdeithasau tai. Dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad rydym ni wedi datblygu casgliad o weithgareddau cadarnhaol y profwyd eu bod yn ennyn diddordeb pobl ifanc, ac a all helpu rhai sydd mewn perygl o lithro i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gangiau a thrais.

Mae ein gwasanaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Mannau diogel: darparu hybiau ieuenctid a chlybiau ieuenctid. 
  • Gweithgareddau cadarnhaol: defnyddio chwaraeon, celfyddydau a cherddoriaeth i hyrwyddo ymgysylltiad a chyflawniad.
  • Gweithredu cymdeithasol: galluogi pobl ifanc i arwain ymgyrchoedd amgylcheddol lleol a chymryd camau ymarferol i wella’r mannau lle maen nhw’n byw.
  • Cydlyniant: mentrau sy’n dwyn ynghyd bobl ifanc o wahanol gymunedau, neu sy’n pontio’r bwlch rhwng yr ifanc a’r hen.
  • Cyfranogiad: helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’w llais a chael rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.