Rydym ni’n helpu plant, teuluoedd a’r gymuned ehangach i feithrin gwell cysylltiadau â natur ac i ddysgu mwy am y problemau mawr sy’n effeithio ar ein hamgylchedd yn lleol ac yn fyd-eang. Mae hynny’n golygu hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol a gweithredu ar faterion fel sbwriel, gwastraff, llygredd aer, bwyd iach a diogelu mannau gwyrdd. 

Rydym ni’n gweithio gyda phobl o bob oed a chefndir – er enghraifft, gan ddefnyddio prosiectau amgylcheddol ymarferol fel ffocws ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar neu i helpu i gynnwys ceiswyr lloches yn y gymuned ehangach.

Rydym ni’n meddwl bod angen i bawb fynd allan yn yr awyr agored mwy: mae wedi’i brofi bod cymryd rhan mewn gweithgareddau strwythuredig mewn mannau gwyrdd o fudd i ddatblygiad plant, yn helpu pobl i reoli cyflyrau iechyd ac yn gallu brwydro yn erbyn gorbryder ac unigedd. Mae helpu pobl i ddeall a gwerthfawrogi eu hamgylchedd lleol yn golygu eu bod yn fwy tebygol o weld y patrwm a sylweddoli’r angen i fynd i’r afael â’n heriau byd-eang mwy.

Mae ein gwaith yn cynnwys:

  • Chwarae yn yr awyr agored: gall hybu chwarae mewn amgylchedd naturiol a gweithgareddau i’r teulu mewn parciau a mannau gwyrdd helpu i wella hyder rhieni i grwydro’r cefn gwlad sydd ar stepen eu drws
  • Dysgu fel teulu: mae gweithgareddau fel crefftau a thyfu bwyd yn dod â theuluoedd ynghyd i ddysgu mwy am natur a’r amgylchedd
  • Cymorth yn y gwyliau: rydym ni’n cynnig rhaglenni amgylcheddol fel ffordd o gynorthwyo rhieni trwy’r gwyliau ysgol a chael pobl ifanc i ganolbwyntio ar weithgareddau cadarnhaol yn eu cymuned
  • Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth: rydym ni’n gweithio gyda grwpiau llawr gwlad lleol i ysbrydoli ac ysgogi gweithredu ar faterion fel gwastraff, llygredd aer ac arbed ynni.