Rydym ni’n gweithio gyda sefydliadau ar bob lefel o’r sector cyhoeddus – o Gynghorau Plwyf i adrannau llywodraethau ac asiantaethau cenedlaethol. Rydym ni’n cysylltu syniadau ac uchelgeisiau cymunedau â nodau strategol cyrff cyhoeddus, gan sefydlu mentrau sy’n sicrhau y caiff adnoddau eu targedu i’r mannau lle mae eu hangen mwyaf a lle gallan nhw gael yr effaith fwyaf posibl ar ansawdd bywyd pobl a’u cyfleoedd bywyd.
A ninnau’n sefydliad sydd â’i wreiddiau mewn partneriaethau lleol, seiliedig ar leoedd, rydym ni’n gweithio’n greadigol ac yn gydweithredol i gynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu cymdeithas sifil gryfach ac i sicrhau bod y bobl hynny na chlywir eu lleisiau yn aml yn cael rhan mewn penderfyniadau am y gwasanaethau a’r cyfleusterau sy’n bwysig iddyn nhw.
Gallwn eich helpu i wneud y canlynol:
- Adeiladu cymunedau cryfach a mwy cydnerth: trwy ein gwaith uniongyrchol gyda grwpiau cymunedol a phobl ifanc a thrwy eich helpu i ddosbarthu grantiau a darparu cymorth i sefydliadau llawr gwlad.
- Ymateb i’r argyfwng hinsawdd: trwy helpu cymunedau a phobl ifanc i weithredu ar wastraff, llygredd a phlastig, helpu busnesau a chyrff cyhoeddus i fod yn wyrddach, a thrwy gydweithio i warchod a gwella bioamrywiaeth mannau gwyrdd.
- Hybu sgiliau ac economïau lleol: trwy ein rhaglenni cyflogaeth a hyfforddiant a’n cymorth i bobl ifanc sy’n cael trafferth mewn addysg
- Gwella canol trefi: trwy greu mannau agored o ansawdd da a chynorthwyo ardaloedd gwella busnes
- Mynd i’r afael â thlodi tanwydd: mae ein ‘Meddygon Gwyrdd’ yn helpu pobl agored i niwed i roi hwb i’w hincwm trwy arbed ynni a dŵr, er mwyn iddyn nhw allu byw’n fwy cyfforddus a lleihau eu heffaith amgylcheddol.
- Hybu iechyd a lles: trwy fentrau cymunedol i leihau arwahaniad a hybu gwell hunan-ofal a thrwy ailgysylltu pobl â natur.
- Rheoli a chynnal a chadw asedau cymunedol: gall ein tirlunwyr gynllunio mannau sy’n gweithio i bobl leol, yn gwella bioamrywiaeth ac yn lleihau costau cynnal a chadw. Mae ein mentrau cymunedol yn helpu pobl i adfywio amrywiaeth o gyfleusterau o gaffis i glybiau ieuenctid.